Garddio’r Goedwig Bangor
Cychwynnwyd cynllun ‘Garddio’r Goedwig Bangor’ ym 1998 ar chwarter hectar o dir ar Fferm Ymchwil Prifysgol Cymru yng Ngogledd Orllewin Cymru. Ers hynny mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg a’i gynnal yn hollol gan wirfoddolwyr, yn lleol ag o blith y myfyrwyr wedi trawsnewid y safle. Atgyweiriwyd ffensiau llechen draddodiadol a waliau sychion, paratowyd llwybrau ar gyfer cadeiriau olwyn. Gosodwyd meinciau, deildai, toiledau compost, sbiralau llysiau, a’r planhigion wrth gwrs. Rydym yn annog bioamrywiaeth drwy greu sypiau cynefin, ardaloedd gwyllt, cynorthwyo rhywogaethau brodorol, peidio bod yn o’r daclus a chreu llyn neu ddau.
Dros y blynyddoedd diwethaf bu tîm ‘Garddio’r Goedwig’ yn datblygu eu gwaith yn y gymdeithas. Rydym yn fynych yn cydweithio gydag oedolion ag anawsterau dysgu. Maent wyrth eu boddau yn dod i’r ardd ac wedi cael cryn bleser o dyfu bwyd. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhai ar brawf yn gwneud gwasanaeth cymdeithasol, y mwyafrif yn gwneud gwaith gyda choed glas. Yn ddiweddar bûm yn gweithio gyda throseddwyr ifanc, sy mewn llawer ystyr wedi body yn fwy o her. Hefyd cafwyd gweithdai i’r plant, ymweliadau i’r cyhoedd ac ambell i gwrs hyfforddi byr. Trwy’r gweithgareddau amrywiol a’r naws sy’n gwau trwy ‘Garddio’r Goedwig’ yr ydym yn ceisio datblygu, medrusdod y sawl sy’n cymryd rhan mewn cyfathrebu, cydweithrediad, ag ymddwyn a phobl yn gyfochrog a gofal am yr amgylchfyd, a ffordd o fyw cynaliadwy.
Cryfder mawr ‘Garddio’r Goedwig’ yw amrywiaeth mawr o’r hyn y mae’n cofleidio, bwydydd ffres amrywiol, iechyd, gweithgareddau, materion cefn gwlad, newid hinsawdd, bioamrywiaeth, agro-ecoleg, crefftau, garddwriaeth. Mae rhywbeth at ddant pawb.
Wrth ddynesu at ein degfed pen blwydd rydym yn gobeithio cael cyllid ar gyfer Swyddog Prosiectau a Swyddog Gweinyddol, ehangu a chael safle newydd, bwrw’n mlaen a’n gwaith yn y gymuned a lledaenu’r neges.
Rydym yn dod at ein gilydd o 11.30 ymlaen ar yr ail Sul o bob mis. Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.
Garddio’r Goedwig
Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd, Asesiad Ecosystem y Mileniwm, a Chyrchnodau Datblygiad y Mileniwm oll yn ymdrin â phroblemau dyrys ein cyfnod. Problemau sy’n galw am weithredu ar gynlluniau bychain lleol. Os ydym am ymateb i’r haeriadau hyn mae gofyn dod o hyd i atebion sy’n syml ag yn dderbyniol i bawb. Mae ‘Garddio’r Goedwig’ yn cynnig un ateb.
Golyga ‘Garddio’r Goedwig’ greu trefn amlochrog o gynhyrchu planhigion i ddarparu bwydydd a chynhyrchion eraill. Gall y mwyafrif o’r boblogaeth gymryd rhan. Nid yw’n galw am ormodedd o weithgarwch a gellir addasu buarth gefn neu amryw hectarau o dir. Gall Gerddi’r Goedwig gynnwys rhannau o ddatblygiadau dwys a gellir eu creu mewn cartrefi, ysgolion, ffermydd, parciau a chartrefi gofal.
Gall ‘Garddio’r Goedwig’ ddatrys rhai o broblemau bywyd cyfoes sy’n hawlio cymaint o sylw’r Wasg y dyddiau hyn.
- Lledu’r dewis o fwyd ffres yn ein hymborth, yn enwedig, aeron, ffrwythau a dail, y bwydydd ‘ardderchog’.
- Dim lapio bwydydd.
- Dim milltiroedd bwyd (food miles)
- Dim gwrteithion - ail gylchir maetholion drwy gompostio gan ddefnyddio gosodwyr Nitrogen.
- Dim plaladdwyr – Golyga bioamrywiaeth nid yw pla a heintiau mor ddifrifol.
Mae garddio yn annog ffordd o fyw mwy bywiog sy’n gwrthsefyll gordewdra ag iselder ysbryd.
Environment Wales: Amgylchedd Cymru is a partnership initiative between the National Assembly for Wales and the voluntary sector which contributes to sustainable development by supporting voluntary action for protecting and improving the environment. |

‘The project has been funded by the Hanson Environment Fund – one of the largest set up under the landfill tax credit scheme.’ |
|
|
|
|
|
|

University of Wales, Bangor |

The BFG Project is supported by The Permaculture Association (Britain) |

An Independent Group associated with BTCV, a registered charity. |
|